Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/130

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3.A ddiffydd cariad rhad ?
Ai ofer geiriau Duw ?
A gollir rhinwedd gwaed
Ac angau Iesu gwiw ?
Gwn mai di-lyth wirionedd yw
Fod cariad Duw yn para byth.

4.Er Satan, byd, a chnawd,
A'm holl elynion cas,
Fe ddygir f'enaid tlawd
O'i holl gadwynau i maes:
Gwn mai di-lyth wirionedd yw
Fod cariad Duw yn para byth.

William Williams, Pantycelyn

61[1] "Nesáu at Dduw sy dda i mi."
66. 66.88.

1.MAE Duw yn llond pob lle,
Presennol ym mhob man ;
Y nesaf yw Efe
O bawb at enaid gwan ;
Wrth law o hyd i wrando cri:
"Nesáu at Dduw sy dda i mi."

2.Yr Arglwydd sydd yr un,
Er maint derfysga'r byd ;
Er anwadalwch dyn,
Yr un yw Ef o hyd;
Y graig ni syfl ym merw'r lli:
""Nesáu at Dduw sy dda i mi."

3.Yr Hollgyfoethog Dduw,
Ei olud ni leiha;
Diwalla bob peth byw
O hyd â'i 'wyllys da;
Un dafn o'i fôr sy'n fôr i ni:
""Nesáu at Dduw sy dda i mi."

David Jones, Treborth.

  1. Emyn rhif 61, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930