Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/131

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

62[1] "Nesáu at Dduw sy dda i mi."
66. 66. 88.

1.MEWN trallod, at bwy'r af,
Ar ddiwrnod tywyll du?
Mewn dyfnder, beth a wnaf,
A'r tonnau o'm dau tu?
O! fyd, yn awr beth elli di?
"Nesáu at Dduw sy dda i mi."

2.Anwadal hynod yw
Gwrthrychau gorau'r byd;
Ei gysur o bob rhyw,
Siomedig yw i gyd;
Rhag twyll ei wên, a swyn ei fri,
"Nesáu at Dduw sy dda i mi."

David Jones, Treborth

63[2] Nawdd y Dwyfol Waed.
66.66.88.

1.FY enaid, at dy Dduw,
Fel gwrthrych mawr dy gred,
Trwy gystudd o bob rhyw,
A phob temtasiwn, rhed;
Caf ganddo Ef gysuron gwir,
Fwy nag ar foroedd nac ar dir.

2.O! na allwn roddi 'mhwys
Ar dy ardderchog law,
A gado i gystudd ddod.
Oddi yma ac oddi draw;
A byw dan nawdd y dwyfol waed
Yng ngolwg hyfryd dŷ fy Nhad.

3.Mi fyddaf lawen iawn,
A'm gofid dan fy nhraed,
O fore hyd brynhawn,
Dan adain gwir fwynhad;
Nid oes dim arall is y nef
A ddaw â'm henaid tua thref.

William Williams, Pantycelyn

  1. Emyn rhif 62, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 63, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930