Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/132

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

64[1] Arglwydd, Cofia fi.
66. 66.88.

1.I FYNY at fy Nuw,
Fy enaid, cod dy lef,
Uwchlaw yr euraid lu,
I eithaf nef y nef:
Gostwng dy glust o'r bryniau fry,
O! Arglwydd grasol, cofia fi.

2.'Rwyf yma'n wael fy ngwedd,
Yn euog ac yn wan,
Gelynion creulon sydd
O'm hamgylch ym mhob man:
Bydd imi'n blaid yn erbyn llu,
O! Arglwydd grasol, cofia fi.

3.Yn wyneb uffern ddu,
Ac angau mawr ei rym,
Rho imi nerth wrth raid,
Bydd Di yn nodded im:
Yn nyfroedd cryf Iorddonen ddu,
O! Arglwydd grasol, cofia fi.

David Charles (1762-1834

65[2] Cyfoeth yn Nuw.
66. 66. 88.

1.O! UCHDER heb ei faint,
O ddyfnder heb ddim rhi',
O! led a hyd heb fath,
Yw'n hiechydwriaeth ni:
Pwy ŵyr, pwy ddwed—seraffiaid, saint,
O'r ddaer i'r nef, beth yw fy mraint?

2.Mae'r ddaear a'i holl swyn
Oll yn diflannu'n awr;
A'i themtasiynau cry'
Sy'n cwympo'n llu i'r llawr;
Holl flodau'r byd sydd heb eu lliw;
'D oes dim yn hyfryd ond fy Nuw.


  1. Emyn rhif 64, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 65, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930