Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/140

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

77[1] Syched am Dduw.
87. 87. 47.

1.FY nymuniad, paid â gorffwys
Ar un tegan is y nef
Eto 'rioed ni welodd llygad
Wrthrych tebyg iddo Ef:
Cerdda rhagot,
'R wyt ti bron a'i wir fwynhau.

2. Ffárwel, ffárwel oll a welaf,
Oll sydd ar y ddaer yn byw ;
Gedwch imi, ond munudyn,
Gael yn rhywle gwrdd â'm Duw :
Dyna leinw
'Nymuniadau oll yn un.

3.D'air a wnaeth y moroedd helaeth,
D'air a wnaeth y ddaear fawr,
D'air a greodd lu'r ffurfafen
Sydd yn hongian uwch y llawr:
'Mysg a greaist,
'D oes gyffelyb it dy Hun.

4.Tyrd, yr Hwn wyt yn hawddgarach
Na'th greaduriaid maith eu rhi';
Pryd y doi, y gwnei dy drigfan
Bob munudyn gyda mi ?
Tyrd yn fuan,
Arglwydd, at y sawl a'th gâr.

William Williams, Pantycelyn

78[2] Duw a Digon.
87. 87. 47.

NID oes eisiau un creadur
Yn bresennol lle bo Duw;
Mae E'n fwyd, y mae E'n ddiod,
Nerth fy natur egwan yw :
Pob hapusrwydd
Sydd yn aros ynddo'i Hun.


  1. Emyn rhif 77, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 1, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930