2. Gyrrwch fi i eithaf twllwch,
Hwnt i derfyn oll sy'n bod,
I ryw wagle dudew anial,
Na fu creadur ynddo 'rioed:
Hapus hapus
Fyddaf yno gyda Thi.
3.Nid oes unman imi'n gartref,
Nid oes drigfan o un rhyw
Alla'i galw yn hyfrydwch
Imi'n awr ond mynwes Duw;
Yn ei fynwes
Mae fy naear i a'm nef.
William Williams, Pantycelyn
79[1] Gofal a Chariad Duw.
87.87.47.
1.E'R dy fod yn uchder nefoedd,
Uwch cyrhaeddiad meddwl dyn,
Eto dy greaduriaid lleiaf
Sy'n dy olwg bob yr un;
Nid oes meddwl
Ond sy'n olau oll o'th flaen.
2.Ti yw 'Nhad, a Thi yw 'Mhriod,
Ti yw f'Arglwydd, Ti yw 'Nuw,
F'unig Dŵr, a'm hunig Noddfa,
Wyt i farw neu i fyw :
Cymer f'enaid
Dan dy adain tua'r nef.
3.Tro 'ngelynion yn eu gwrthol,
A phalmanta'r ffordd i'r wlad,
Tra fwy'n yfed addewidion
P:ur yr iechydwriaeth rad;
Fel y gallwyf
O'm holl gystudd ymgryfhau.
4.Minnau ymddigrifaf ynot,
A chanmolaf fyth dy ras,
- ↑ Emyn rhif 79 Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930