Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/143

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae dy lwybrau'n anweledig
Yn nyfnderoedd moroedd mawr;
Dy feddyliau—
Is nag uffern, uwch na'r nef.

2.Minnau'n ddyfal sy'n ymofyn
Ar yr aswy, ar y dde,
Ceisio ffeindio dwfwn gyngor
A dibenion Brenin ne':
Hyn a ffeindiais—
Mai daioni yw oll i mi.

3.Da yw'r groes, a da yw gwasgfa,
Da yw profedigaeth llym;
Oll a'm tyn i o'r creadur,
O'm haeddiannau ac o'm grym;
Minnau'r truan
Ffof dan adain Brenin nef.

William Williams, Pantycelyn

82[1] Noddfa yn Nuw.
87. 87. 47.

1.DARFU noddfa mewn creadur,
Rhaid cael noddfa'n nes i'r nef;
Nid oes gadarn le im orffwys
Fythol ond ei fynwes Ef;
Dyma'r unig
Fan caiff f'enaid wir iachâd.

2.Dan dy adain cedwir f'enaid,
Dan dy adain byddaf byw,
Dan dy adain y gwaredir
Fi o'r beiau gwaetha'u rhyw;
'R wyt yn gysgod
Rhag euogrwydd yn ei rym.

William Williams, Pantycelyn


83[2] Ein Cadarn Dŵr.
87. 87. 55. 567.

1.EIN nerth a'n cadarn dŵr yw Duw,
Ein tarian a'n harfogaeth;

  1. Emyn rhif 82, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 83, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930