O ing a thrallod o bob rhyw
Rhydd gyflawn waredigaeth.
Gelyn dyn a Duw,
Llawn cynddaredd yw;
Gallu a dichell gref
Yw ei arfogaeth ef;
Digymar yw'r anturiaeth.
2.Ni ellir dim o allu dyn:
Mewn siomiant blin mae'n diffodd;
Ond trosom ni mae'r addas Un,
A Duw ei Hun a'i trefnodd.
Pwy? medd calon drist:
Neb ond Iesu Grist,
Arglwydd lluoedd nef;
Ac nid oes Duw ond Ef;
Y maes erioed ni chollodd.
Martin Luther, cyf. Lewis Edwards
84[1] Trugaredd Duw.
87. 87. D.
1.DEUED dyddiau o bob cymysg
Ar fy nherfynedig oes;
Tywynned haul oleudeg llwyddiant,
Neu ynteu gwasged garw groes,
Clod fy Nuw gaiff lanw 'ngenau
Trwy bob tymestl, trwy bob hin;
A phob enw gaiff ei lyncu
Yn ei enw Ef ei Hun.
2.Ynddo'n unig 'r wy'n ymddiried,
Hollalluog yw fy Nuw;
A ffieiddio'r wyf bob noddfa
Arall-annigonol yw;
Yn ei iechydwriaeth rasol
Yn unig 'r wyf yn llawenhau;
Dyma'r fan y tardd cysuron
Sy'n dragwyddol yn parhau.
- ↑ Emyn rhif 84, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930