Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/145

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3.Mae ei glustiau yn agored
I bob rhyw ddrylliedig lef,
Ac mae'r drom ochenaid glwyfus
Yn cyrhaeddyd ato Ef;
Pan fo twllwch ac anobaith
Yn amgylchu'r llwybrau cudd,
Fe ddaw 'mlaen, fe dry y cyfnos
Yn gan goleuach hanner dydd.

4.Boed fy nhafod fyth, gan hynny,
Yn seinio'i anghymharol glod,
Rhyfeddodau maith y cariad
Pennaf welodd dyn erioed;
Caiff angylion a seraffiaid
Blethu eu cân â mi yn un,
Gyda llu heb un rhifedi,
Am ogoniant Mab y Dyn.

William Williams, Pantycelyn

85[1] Ymostwng i Benarglwyddiaeth Duw.
87. 87. D.

1.TYRED, Arglwydd, tyrd yn fuan,
Dim ni'm boddia dan y ne',
Dim ond Ti a ddeil fy ysbryd
Gwan lluddedig yn ei le;
Neb ond Ti a gyfyd f'enaid
Llesg o'r pydew du i'r lan;
Os Tydi sy'n gwneud im ochain,
Ti'm gwnei'n llawen yn y man.

2.Hwyl fy enaid sy wrth d'ewyllys,
Fel y mynnych mae yn bod.
Oll o mewn, ac oll oddi allan,
Ddigwydd imi is y rhod:
'N awr Ti'm codi i'r lan i'r nefoedd,
Eilwaith Ti'm gostyngi i lawr;
Mae dy gerydd, mae dy gariad
Im yr un rhyfeddod mawr.


  1. Emyn rhif 85, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930