Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/146

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3.Tyrd, rho gerydd im, neu gariad,
'R un a fynnych Di dy Hun;
Ond trwy'r cwbwl cadw f'ysbryd
Yn sefydlog wrth dy glun:
Dros y bryniau gwna i mi gerdded
Tuag adre'n ddinacâd,
Heb yn unlle imi edrych
Ond ar degwch tŷ fy Nhad.

William Williams, Pantycelyn

86[1] Bwriad grasol Duw.
87. 87. D.

1.DRAW mi welaf ryfeddodau
Dyfnion bethau Tri yn Un,
Cyn bod Eden ardd na chodwm—
Grasol fwriad Duw at ddyn:
Ethol meichiau cyn bod dyled,
Trefnu meddyg cyn bod clwy',
Caru gelyn heb un haeddiant;
Caiff y clod tragwyddol mwy.

2.O! dragwyddol iechydwriaeth,
Yn yr arfaeth gafodd le,
I gyfodi plant marwolaeth
I etifeddiaeth bur y ne':
Cariad bore, mor ddiddechrau
Ag yw hanfod Tri yn Un,
Yn cofleidio meibion Adda
Yn yr Alpha mawr ei Hun.

P 1. O gasgliad 1af Morris Davies.Bangor
P 2 William Owen (Gwilym Alaw)


87[2] Adnabod Duw.
87. 87. D.

1.O! AM dreiddio i'r adnabyddiaeth
O'r unig wir a bywiol Dduw,
I'r fath raddau a fo'n lladdfa
I ddychmygion o bob rhyw;
Credu'r gair sy'n dweud amdano,
Am ei natur sanctaidd wiw
Sy'n farwolaeth i bechadur
Heb gael Iawn o drefniad Duw.


  1. Emyn rhif 86, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 87, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930