Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/147

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

2.Mae'r Duw anfeidrol mewn gogoniant,
Er mai Duw y cariad yw,
Wrth ei gofio, imi'n ddychryn,
Imi'n ddolur, imi'n friw:
Ond ym mhabell y cyfarfod,
Mae Ef yno'n llawn o hedd,
Yn Dduw cymodlawn wedi eistedd,
Heb ddim ond heddwch yn ei wedd.

3.Cael Duw yn Dad, a Thad yn Noddfa,
Noddfa'n Graig, a'r Graig yn Dŵr,
Mwy ni allaf ei ddymuno
Gyda mi mewn tân a dŵr;
Ohono Ef mae fy nigonedd;
Ac ynddo trwy fyddinoedd af;
Hebddo, eiddil, gwan a dinerth,
Colli'r dydd yn wir a wnaf.

Ann Griffiths

88[1] O! Gariad na'm Gollyngi.
8888. 6.

1.O! GARIAD na'm gollyngi i,
Gorffwysfa f'enaid ynot sydd:
Yr einioes roddaist, cymer hi,
A llawnach, glanach fyth ei lli
Yn d'eigion dwfn a fydd.

2.O! Lewyrch yn fy nghanlyn sydd,
Fy nghannwyll wan a rof i Ti;
A golau benthyg hon a fydd
Yn twnnu'n loywach, decach dydd,
Yn dy glaer heulwen Di.

3.O! Wynfyd pur a'm cais trwy fraw,
Ni allaf rhagot gau fy mron;
'R wy'n gweld yr enfys trwy y glaw,
Yn ôl d'addewid gwn y daw
Diddagrau fore llon.


  1. Emyn rhif 88, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930