Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/148

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

4.O! Groes a gŵyd fy mhen, yn awr
Ni feiddiaf ddeisyf d'ochel Di;
Mi fwriaf falchder f'oes i'r llawr,
A thardd o'i lwch, â gwridog wawr,
Fy mythol fywyd i.

George Matheson, cyf. David Tecwyn Evans

89[1] Duw yn Maddau.
88. 88. 88.

1.DUW mawr y rhyfeddodau maith!
Rhyfeddol yw pob rhan o'th waith;
Ond dwyfol ras, mwy rhyfedd yw
Na'th holl weithredoedd o bob rhyw.
Pa dduw sy'n maddau fel Tydi
Yn rhad ein holl bechodau ni?

2.O! maddau'r holl gamweddau mawr,
Ac arbed euog lwch y llawr;
Tydi yn unig fedd yr hawl,
Ac ni chaiff arall ran o'r mawl.
Pa dduw sy'n maddau fel Tydi
Yn rhad ein holl bechodau ni?

3.O boed i'th ras anfeidrol gwiw,
A gwyrth dy gariad mawr, O! Dduw,
Orlenwi'r ddaear faith â'th glod,
Hyd nefoedd, tra fo'r byd yn bod.
Pa dduw sy'n maddau fel Tydi
Yn rhad ein holl bechodau ni?

Dr. Samuel Davies, cyf. John Richard Jones, Ramoth.


90[2] SALM XLVI. 1—5.
888.888.

1.DUW yw fy nerth a'm noddfa lawn;
Mewn cyfyngderau creulon iawn,
Pan alwom arno, mae gerllaw;
Ped âi'r mynyddoedd mwya' i'r môr,
Pe chwalai'r ddaear fawr a'i stôr,
Nid ofnai f'enaid i ddim braw.


  1. Emyn rhif 89, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 1, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930