92[1] Arfaeth Duw.
10. 10. 10. 10.
1 CYN llunio'r byd, cyn lledu'r nefoedd wen,
Cyn na lloer, na sêr uwchben,
Fe drefnwyd ffordd yng nghyngor Tri yn Un
I achub gwael golledig euog ddyn.
2 Trysorwyd gras, ryw annherfynol stôr,
Yn Iesu Grist cyn rhoddi deddf i'r môr ;
A rhedeg wnaeth bendithion arfaeth ddrud,
Fel afon gref lifeiriol dros y byd.
3 Mae'r utgorn mawr yn seinio'n awr i ni
Ollyngdod llawn trwy'r Iawn ar Galfari:
Mawl ym mhob iaith trwy'r ddaear faith a fydd,
Am angau'r groes, a'r gwaed a'n rhoes yn rhydd.
—Peter Jones (Pedr Fardd
93[2] Ti Dduw Unig Ddoeth.
11. 11. 11. 11.
TI, Dduw unig ddoeth, y goleuni a'th gêl,
Tragywydd wyt Ti, nid oes lygad a'th wêl.
Dy rym a'th ogoniant byth bythoedd yn bod,
Bendigaid, goruchel, i'th enw rhown glod.
2 Heb orffwys, heb frysio, mor dawel â'r dydd,
Heb brinder, heb orfod, a fynni a fydd ;
Cadarnach dy farn na'r mynyddoedd mawr iawn;
A daw o'th gymylau bob cariad a dawn.
3 Tydi a rydd fywyd i fychan a mawr,
Tydi ym mhob bywyd yw'r bywyd bob awr ;
Blagurwn, heneiddiwn, fel dail ar y coed,
Heneiddiwn, diflannwn, a Thi fel erioed.
4 Ti, Dad y Gogoniant a'r golau uwchben,
Fe'th fawl yr angylion, a'u golau tan len;
Dod gymorth, pob moliant a roddwn i Ti,
Ysblander y golau a'th gudd rhagom ni.
W. CHALMERS SMITH, cyf. Thomas Gwynn Jones