94[1] Cariad ac Iawn Crist.
M. B.
1 CYDUNED Seion lân
Mewn cân bereiddia'i blas
O fawl am drugareddau'r Iôn,
Ei roddion Ef a'i ras.
2 P'le gwelir cariad fel
Ei ryfedd gariad Ef?
P'le bu cyffelyb iddo 'rioed?
Rhyfeddod nef y nef!
3 Fe'n carodd cyn ein bod,
A'i briod Fab a roes,
Yn ôl amodau hen y llw,
I farw ar y groes.
4 Gwnaeth Iesu berffaith Iawn
Brynhawn ar Galfari:
Yn ei gyfiawnder pur di-lyth
Mae noddfa byth i ni.
5 Anfeidrol ydyw gwerth
A rhin ei aberth mawr,
I achub rhyw aneirif lu
O deulu gwael y llawr.
Y rhai, yn berffaith lân,
A beraidd gân i gyd,
I'r bendigedig unig Oen
Yn iach o boen y byd.
James Hughes (Iago Trichrug)
95[2] Haeddiant y Groes.
M. B.
TI, Iesu, Frenin nef,
F' Anwylyd i a'm Duw!
Yn eithaf pell o dy fy Nhad,
Mewn anial wlad, 'r wy'n byw.