Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/153

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

4.Yng nghwmni Iesu Grist
Wynebwn angau prudd;
Try Ef y nos-gysgodau trist
Yn hyfryd fore-ddydd.

5.Wynebwn ar y bedd
Ond cael yr Iesu'n rhan,
Mewn gobaith deffro ar ei wedd,
A chodi'n iach i'r lan.

Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai)

97[1] Trefn y Cadw.
M. B.

1.TOSTURI dwyfol fawr
At lwch y llawr fu'n bod,
Pan gymerth Duw achubiaeth dyn,
A'i glymu'n un â'i glod.

2.Pan ddaeth y Mab o'i fodd
I farw yn ein lle,
Agorodd ffordd i'n dwyn at Dduw;
Ein Ceidwad yw Efe.

3.Mae Iesu'n fawr ei fri,
A'i glod yn llenwi'r nef;
A holl hyfrydwch pur y plant
Yw ei ogoniant Ef.

Edmwnd Prys


98[2] Y cwbl trwy'r Gwaed.
M. B. D.

1.DY glwyfau yw fy rhan,
Fy nhirion Iesu da;
Y rhain yw nerth fy enaid gwan,
Y rhain a'm llwyr iachâ:
Er saled yw fy nrych,
Er tloted wyf yn awr,
Fy llenwi gaf â llawnder Duw,
A'm gweled fel y wawr.


  1. Emyn rhif 97, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 98, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930