2.Mi brofais Dduw yn dda,
Fy nhirion raslon Dad,
Yn maddau im fy meiau mawr
Yn rhwydd o'i gariad rhad:
Fe'm seliodd i mewn hedd—
On'd rhyfedd yw ei ras?
Fe'm bwydodd i â'r manna pur
Mewn gwledd o hyfryd flas.
William Williams, Pantycelyn
99[1] Y Gwaed yn puro'r Gydwybod.
M. B. D.
1.MI gana' am waed yr Oen,
Er maint yw 'mhoen a'm pla;
'D oes genny'n ŵyneb calon ddu
Ond Iesu'r Meddyg da;
Fy mlino ges gan hon,
A'i throeon chwerwon chwith;
Fy unig sail i am y wlad
Yw'r cariad bery byth.
Grawnsypiau Cannan. 1
100[2] Adnabod Crist.
M. B. D.
1.WEL dyma'r Ceidwad mawr
A ddaeth i lawr o'r nef
I achub gwaelaidd lwch y llawr;
Gogoniant iddo Ef!
Bu farw yn ein lle
Ni, bechaduriaid gwael;
Mae pob cyflawnder ynddo Fe
Sydd arnom eisiau'i gael.
2.Ei 'nabod Ef yn iawn
Yw'r bywyd llawn o hedd,
A gweld ei iechydwriaeth lawn
Sydd yn dragwyddol wledd:
Cael teimlo gwaed y groes
Yn dofi'r loes a'r cur,
A wnaeth i filoedd o bob oes
Gydseinio'r anthem bur.
John Thomas (1730-1803)