101[1] Pob peth yng Nghrist.
M. C.
1.TI, Iesu, ydwyt, oll dy Hun
Fy meddiant ar y llawr;
A Thi dy Hunan fydd fy oll
O fewn i'r nefoedd fawr.
2.Mae 'nymuniadau maith eu hyd
Yn pwyntio oll yn un,
Dros bob gwrthrychau is y sêr,
Ac atat Ti dy Hun.
3.O! ffynnon trugareddau maith,
Diderfyn yw dy ras,
I roi trysorau penna'r nef
I'r tlotaf un i maes.
4.Fy unig gysur dan bob gwae
Dy fod Di imi'n Dduw;
Ac yn dy gysgod mi af trwy
Gystuddiau o bob rhyw.
5.Anghyfnewidiol gair y nef,
Ond cyfnewidiol fi;
Am hyn mi safaf, doed a ddêl,
Mae'r afael sicraf fry.
William Williams, Pantycelyn
102[2] Ffordd at yr Orsedd.
M. C.
1.MAE'R orsedd fawr yn awr yn rhydd,
Gwrandewir llais y gwan;
Wel, cyfod bellach, f'enaid prudd,
Anadla tua'r lan.
2.Wel, anfon eirchion amal rif,
I mewn i byrth y nef;
Gwrandewir pob amddifad gri
Yn union ganddo Ef.