Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/157

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

104[1] Rhinwedd Dwyfol Glwyf.
M. C.

1.NI all angylion pur y nef,
Â'u doniau amal hwy,
Fyth osod allan werthfawr bris
Anfeidrol ddwyfol glwy'.

2.Dioddefodd angau, dygyn boen,
A gofir tra fo'r nef;
Fy nerth, fy nghyfoeth i a'm braint,
A'm noddfa lawn yw Ef.

3.Fe'm denodd i, yn ddirgel iawn
A distaw, ar ei ôl;
Ac mewn afonydd dyfnion llawn,
Cymerodd fi'n ei gôl.

4.Na foed fy mywyd bellach mwy
Yn eiddo i mi fy hun;
Ond treulier fy munudau i gyd
Yn glod i'm Harglwydd cun.

William Williams, Pantycelyn

105[2] Iesu'r Trysor Pennaf.
M. C.

1.NI feddaf ar y ddaear fawr,
Ni feddaf yn y ne',
Neb ag a bery'n annwyl im,
Yn unig ond Efe.

2.Mae ynddo'i Hunan drysor mwy
Nag sy'n yr India lawn;
Fe brynodd imi fwy na'r byd
Ar groesbren un prynhawn.

3.Fe brynodd imi euraid wisg,
Trwy ddioddef marwol glwy';
A'i angau Ef a guddia 'ngwarth
I dragwyddoldeb mwy.


  1. Emyn rhif 104, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 105, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930