109[1] Cariad a Gras yng Nghrist.
M. C.
1.FY meiau trymion, luoedd maith,
A Waeddodd tua'r nen;
A dyna pam 'r oedd raid i'm Duw
Ddïoddef ar y pren.
2.Hwy a'th fradychodd, annwyl Oen,
Hwy oedd y goron ddrain,
Hwy oedd y fflangell greulon gref,
Hwy oedd yr hoelion main.
3.Fy meiau oedd y wayw-ffon
Drywanai'i ystlys bur,
Fel y daeth ffrwd o dan ei fron
O waed a dyfroedd clir.
4.O! gariad anorchfygol maith,
Heb gymar iddo'n bod;
Cariad i angel ac i sant,
O anghymharol nod.
5.O! maddau 'mai, a chliria'n llwyr
F'euogrwydd oll i gyd;
N'ad im dristáu dy fawredd mwy
Tra fyddwyf yn y byd.
William Williams, Pantycelyn
110[2] Ffrwyth yr Ymgnawdoliad.
M. C.
1.YMHLITH holl ryfeddodau'r nef,
Hwn yw y mwyaf un—
Gweld yr anfeidrol ddwyfol Fod
Yn gwisgo natur dyn.
2.Ni chaiff fod eisiau fyth, tra fo
Un seren yn y nef,
Ar neb o'r rhai a roddo'u pwys
Ar ei gyfiawnder Ef.