114[1] Enw Crist.
M. C.
1.MOR beraidd i'r credadun gwan
Yw hyfryd enw Crist:
Mae'n llaesu'i boen, yn gwella'i glwy',
Yn lladd ei ofnau trist.
2.I'r ysbryd clwyfus rhydd iachâd,
Hedd i'r drallodus fron;
Mae'n fanna i'r newynog ddyn,
I'r blin, gorffwysfa lon.
3.Hoff enw! fy ymguddfa mwy,
Fy nghraig a'm tarian yw;
Trysorfa ddiball yw o ras
I mi y gwaela'n fyw.
4.Iesu, fy Mhroffwyd i a'm Pen,
F' Offeiriad mawr a'm Brawd,
Fy mywyd i, fy ffordd, fy nod,
Derbyn fy moliant tlawd.
John Newton, Cyf. David Charles (1803-1880)
115[2] Golwg ar Groes Crist.
M. C.
1.DOES neb ond Ef, fy Iesu hardd,
A ddichon lanw 'mryd;
Fy holl gysuron byth a dardd
O'i ddirfawr angau drud.
2.'D oes dim yn gwir ddifyrru f'oes
Helbulus yn y byd
Ond golwg mynych ar y groes,
Lle talwyd Iawn mewn pryd.
3.Mi welaf le mewn marwol glwy'
I'r euog guddio'i ben;
Ac yma llechaf nes mynd trwy
Bob aflwydd is y nen.