119[1] Neb ond Iesu.
M. C.
1.FFOED negeseuau gwag y dydd,
Trafferthion o bob Rhyw;
Ac na pharhaed o dan y nef
Ond cariad pur fy Nuw.
2 Meddiannodd Ef â'i ddwyfol ras
Fy holl serchiadau'n un;
Na chaed o fewn i'm hysbryd fod
Neb ond fy Iesu'i Hun.
3 Mae'r Iesu'n fwy na'r nef ei hun,
Yn fwy na'r ddaear las;
Ac Iesu'n unig fydd fy oll
Fyth, fyth o hyn i maes.
4 Cyflawnder nerth, cyflawnder gras,
Cyflawnder nef y nef,
Uwch deall seraffim a saint,
Sy'n trigo ynddo Ef.
William Williams, Pantycelyn
120[2] Byw i Garu Iesu.
M. S.
1 ER maint yw chwerw boen y byd
Mi rof fy mryd ar Iesu;
Ac er pob cystudd trwm a loes.
Mi dreulia' f'oes i'w garu.
2 Ni welais gyfaill dan y sêr
Mor dyner ag yw Iesu;
'R wy'n penderfynu treulio f'oes.
I ddwyn ei groes dan ganu.
3 Ni theimlais ddim gofidiau dwys
Wrth roi fy mhwys ar Iesu;
Am hyn dymuna f'enaid fod
Yn barod i'w wasnaethu.