Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/170

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

126[1] Brawd yn Brynwr.
M. S.

1 DUW ymddangosodd yn y cnawd,
Fe gafwyd Brawd yn Brynwr;
Ni chollir neb, er gwaeled fo,
A gredo i'r Gwaredwr.

2 Yr aberth mawr fu ar y groes,
A'r Iawn a roes yr Iesu,
Yw f'unig obaith ym mhob man
Daw f'enaid gwan i fyny.

John Hughes, Pontrobert

127[2] Newyddion Braf.
M. H.

1 NEWYDDION braf a ddaeth i'n bro,
Hwy haeddent gael eu dwyn ar go'—
Mae'r Iesu wedi cario'r dydd,
Caiff carcharorion fynd yn rhydd.

2 Mae Iesu Grist o'n hochor ni,
Fe gollodd Ef ei waed yn lli;
Trwy rinwedd hwn fe'n dwg yn iach
I'r ochor draw 'mhen gronyn bach.

3 Wel, f'enaid, weithian cod dy ben,
Mae'r ffordd yn rhydd i'r nefoedd wen;
Mae'n holl elynion ni yn awr
Mewn cadwyn gan y Brenin mawr.

John Dafydd, Caio


128[3] Angau'r Groes.
M. H.

1 Y MAE hapusrwydd pawb o'r byd
Yn gorffwys yn dy angau drud;
Hyfrytaf waith angylion fry
Yw canu am fynydd Calfari.


  1. Emyn rhif 126, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 127, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  3. Emyn rhif 128, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930