3 Os tonnau gawn,
a stormydd chwith,
Mae Duw o'n tu, ni foddwn byth ;
Credwn yn gryf, down maes o law
Yn iach i'r lan yr ochor draw.
William Williams, Pantycelyn
134[1] Dewis Iesu.
M. H.
1 'RWY'N dewis Iesu a'i farwol glwy'
Yn Frawd a Phriod imi mwy;
Ef yn Arweinydd, Ef yn Ben,
I'm dwyn o'r byd i'r nefoedd wen.
2 Wel dyma un, O! dwedwch p'le
Y gwelir arall fel Efe,ball
A bery'n ffyddlon im o hyd,
Ym mhob rhyw drallod yn y byd?
3 Pwy wrendy riddfan f'enaid gwan?
Pwy'm cwyd o'm holl ofidiau i'r lan?
Pwy garia 'maich fel Brenin ne'?
Pwy gydymdeimla fel Efe?
4 Wel, ynddo ymffrostiaf innau mwy;
Fy holl elynion, dwedwch,
Pwy O'ch cewri cedyrn, mawr eu rhi',
All glwyfo mwy f'Anwylyd i?
William Williams, Pantycelyn
135[2] Haeddiant Drud.
M. H.
D'OES arnaf eisiau yn y byd
Ond golwg ar dy haeddiant drud,
A chael rhyw braw o'i nefol rin,
I 'mado'n lân â mi fy hun.
2 Er bod dy haeddiant gwerthfawr drud
Yn fwy na'r nef, yn fwy na'r byd,
Yn rhyw anfeidrol berffaith Iawn, '
R wy'n methu gorffwys arno'n llawn.