172[1] Harddwch Crist..
76. 76. D.
1 PWY welaf fel f'Anwylyd,
Yn hyfryd ac yn hardd,
Fel ffrwythlon bren afalau'n
Rhagori ar brennau'r ardd?
Ces eistedd dan ei gysgod
Ar lawer cawod flin;
A'i ffrwyth oedd fil o weithiau
I'm genau'n well na gwin.
John Thomas, Pentrefoelas
173[2] Un Aberth.
76. 76. D.
1 UN waith am byth oedd ddigon
I wisgo'r goron ddrain;
Un waith am byth oedd ddigon
I ddiodde'r bicell fain:
Un aberth mawr yn sylwedd
Yr holl gysgodau i gyd;
Un Iesu croeshoeliedig
Yn feddyg trwy'r holl fyd.
Anhysbys
1 MAE'R Iesu'n fwy na'i roddion,
Mae Ef yn fwy na'i ras;
Yn fwy na'i holl weithredoedd,
O fewn ac o'r tu maes;
Pob ffydd a dawn a phurdeb,—
Mi lefa' amdanynt hwy,—
Ond arno'i Hun yn wastad
Edrycha'i'n llawer mwy.
2 Gweld ŵyneb fy Anwylyd
Wna i'm henaid lawenhau,
Trwy'r cwbwl ges i eto,
Neu fyth gaf ei fwynhau;