Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/199

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Digon, f'enaid, digon yw
Myfyrdodau dwyfol friw:
Mae mwy pleser yn ei glwy'
Na'u llawenydd pennaf hwy.

3 Iesu gollodd ddwyfol waed,
Minnau gafodd wir iachâd;
Darfu ymffrost mawr y byd,
Iesu biau'r clod i gyd;
Wrth ei draed dymunwn fyw,
Holl hapusrwydd f'enaid yw.

William Williams, Pantycelyn


Augustus Toplady

177[1] Craig yr Oesoedd
77. 77. 77

1 CRAIG yr Oesoedd! cuddia fi,
Er fy mwyn yr holltwyd Di;
Boed i rin y dŵr a'r gwaed,
Gynt o'th ystlys friw a gaed,
Fy nglanhau o farwol rym
Ac euogrwydd pechod llym.

2 Ni all gwaith fy nwylaw i
Lenwi hawl dy gyfraith Di;
Pe bai im sêl yn dân di-lyth,
A phe llifai 'nagrau byth,
Iawn ni wnaent i gyd yn un.—
Ti all achub, Ti dy Hun.

3 Dof yn waglaw at dy groes,
Glynaf wrthi trwy fy oes;
Noeth, am wisg dof atat Ti;
Llesg, am ras dyrchafaf gri;
Brwnt, i'r ffynnon dof â'm clwyf;
Golch fi, Geidwad, marw'r wyf.

4 Tra fwy'n tynnu f'anadl frau,
Pan fo'r llygaid hyn yn cau,


  1. Emyn rhif 177, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930