Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/200

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pan fwy'n hedfan uwch y llawr,
Ac yng ngŵydd dy orsedd fawr,
Graig a holltwyd erof fi,
Gad im lechu ynot Ti.

Augustus Toplady,
cyf. Owen Griffith Owen (Alafon).


178[1] Cyflawnder Cariad Crist
77. 77. 77.

1 GWELL na holl drysorau'r llawr
Yw dy gariad, Iesu mawr;
'D oes dim arall yn y byd
A ddiwalla f'enaid drud;
Dyma'r trysor mwya'i fri,
Dyma leinw f'enaid i.

2 Yn y tywyll anial dir,
Rhydd dy gariad olau clir;
Rhydd i'm mynwes heddwch llon,
Nefol falm i'm drylliog fron;
Digon ynddo gaf i fyw,
Ac i farw, digon yw.

3 Boed im wrando, tra fwyf byw,
D'eiriau graslon, Iesu gwiw;
Eistedd wrth dy draed bob awr,
Plygu i'th ewyllys fawr:
Profi o'th gariad dan fy mron
Wna im fyw a marw'n llon.

John Gwyndud Jones



179[2] Ar ei Ben bo'r Goron
77. 87. D.

1 MAE carcharorion angau
Yn dianc o'u cadwynau,
A'r ffordd yn olau dros y bryn
O ddyfnder glyn gofidiau.
Cyhoedder y newyddion,
A gorfoledded Seion,
Mae'r Iesu ar ei orsedd wen,
Ac ar ei ben bo'r goron!


  1. Emyn rhif 178, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 179, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930