Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/203

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3 Dy gamweddau a ddilea;
Pwy fel Efe!
Dy elynion oll, fe'u maedda;
Pwy fel Efe!
Cei bob bendith iti'n feddiant,
Hedd a chariad a'th ddilynant,
Crist a'th arwain i ogoniant;
Pwy fel Efe!

Marianne Nunn,
ef. Peter Jones (Pedr Fardd)


Frances Ridley Havergal

182[1] Pwyso ar Iesu
8. 5. 8. 3.

1 PWYSAF arnat, addfwyn Iesu,
Pwyso arnat Ti;
Mae dy ras di-drai digeulan,
Fel y lli.

2 Pwyso arnat am faddeuant;
Pwyso am fy hedd;
Y mae gwawr i'r truenusaf
Yn dy wedd.

3 Pwyso arnat am sancteiddrwydd,
Plygu wrth dy draed;
Y mae llwyr lanhad i'r aflan
Yn dy waed.

4 Pwyso arnat am gadernid,
Nid wyf fi ond gwan;
Y mae nerth yn dy ddeheulaw:
Dal fi i'r lan.

5 Pwyso arnat, Arglwydd Iesu,
Digon wyt i mi;
Pwyso'n llwyr am dragwyddoldeb
Arnat Ti

Frances Ridley Havergal,
cyf. William Nantlais Williams (Nantlais)


  1. Emyn rhif 182, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930