187[1] Tegwch a Chadernid Iesu
87.87.47.
1 GWYN a gwridog yw fy Arglwydd,
Gwyn a gwridog yw ei wedd;
Brenin y brenhinoedd ydyw
Yma a thu draw i'r bedd;
Mae dy degwch
Wedi f'ennill ar dy ôl.
2 Can' ffarwél i bopeth arall,
'R wyt Ti'n ddigon mawr dy Hun;
Derfydd nefoedd, derfydd daear,
Derfydd tegwch ŵyneb dyn:
Hwn a'th gaffo,
Caiff y cwbwl oll yn un.
3 Mae dy wedd yn drech na byddin
O elynion mawr eu grym;
Nid oes yn y nef a'r ddaear
Saif o flaen dy ŵyneb ddim:
Gair o'th enau
A wna'r dywyll nos yn ddydd.
William Williams, Pantycelyn
188[2] Iesu'n Ddigon
87.87.47.
1 IESU, Iesu, 'r wyt Ti'n ddigon,
'R wyt Ti'n llawer mwy na'r byd;
Mwy trysorau sy'n dy enw
Na thrysorau'r India i gyd:
Oll yn gyfan
Ddaeth i'm meddiant gyda'm Duw.
2 Y mae gwedd dy ŵyneb grasol
Yn rhagori llawer iawn
Ar bob peth a welodd llygad
Ar hyd ŵyneb daear lawn:
Rhosyn Saron,
Ti yw tegwch nef y nef.
William Williams, Pantycelyn