Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/220

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

209[1] Digon yn yr Iesu.
87. 87. D.

1.PECHADUR aflan yw fy enw,
O ba rai y penna'n fyw ;
Rhyfeddaf byth, fe drefnwyd pabell
Im gael yn dawel gwrdd â Duw :
Yno mae, yn llond ei gyfraith,
I'r troseddwr yn rhoi gwledd ;
Duw a dyn yn gweiddi, Digon,
Yn yr Iesu, 'r aberth hedd.

1.Anturiaf ato yn hyderus,
Teyrnwialen aur sydd yn ei law;
Estyniad hon sydd at bechadur,
Ni wrthodir neb a ddaw;
Af ymlaen dan weiddi, Pechais;
Af, a chŵympaf wrth ei draed,
Am faddeuant, am fy ngolchi,
Am fy nghannu yn y gwaed.

Ann Griffiths

210[2] Duw yn y Cnawd.
87.87. D.

1.RHYFEDD, rhyfedd gan angylion,
Rhyfeddod mawr yng ngolwg ffydd,
Gweld Rhoddwr bod, Cynhaliwr helaeth,
A Rheolwr popeth sydd,
Yn y preseb mewn cadachau,
A heb le i roi'i ben i lawr,
Eto disglair lu'r gogoniant
Yn ei addoli'n Arglwydd mawr.

2.Diolch byth, a chanmil diolch,
Diolch tra fo ynof chwyth,
Am fod gwrthrych i'w addoli,
A thestun cân i bara byth,
Yn fy natur wedi ei demtio
Fel y gwaela' o ddynol-ryw,
Yno'n ddyn, yn wan, yn ddinerth,
Yn anfeidrol fywiol Dduw.


  1. Emyn rhif 209, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 210, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930