Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/221

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3.Pan fo Sinai i gyd yn mygu,
A sŵn yr utgorn ucha'i radd,
Caf fynd i wledda dros y terfyn,
Yng Nghrist y Gair, heb gael fy lladd ;
Mae ynddo'n trigo bob cyflawnder,
Llond gwagle colledigaeth dyn;
Ar yr adwy rhwng y ddwyblaid
Gwnaeth gymod trwy'i offrymu'i Hun.

Ann Griffiths

211[1] Craig yr Oesoedd.
87. 87. D.

1.ARGLWYDD Iesu, arwain f’enaid
At y Graig sydd uwch na mi,
Craig safadwy mewn tymhestloedd,
Craig a ddeil yng ngrym y lli;
Llechu wnaf yng Nghraig yr Oesoedd,
Deued dilyw, deued tân,
A phan chwalo'r grëadigaeth,
Craig yr Oesoedd fydd fy nghân.

2.Pan fo creigiau'r byd yn rhwygo
Yn rhyferthwy'r farn a ddaw,
Stormydd creulon arna'i'n curo-
Cedyrn fyrdd o'm cylch mewn braw,
Craig yr Oesoedd ddeil pryd hynny,
Yn y dyfroedd, yn y tân :
Draw ar gefnfor tragwyddoldeb
Craig yr Oesoedd fydd fy nghân.

Samuel Jonathan Griffith (Morswyn)


212[2] "Y pethau ni welir sydd dragwyddol."
87. 87. D.

1.O! FY Iesu bendigedig,
Unig gwmni f'enaid gwan,
Ym mhob adfyd a thrallodion
Dal fy ysbryd llesg i'r lan;
A thra'm teflir yma ac acw
Ar anwadal donnau'r byd,
Cymorth rho i ddal fy ngafael
Ynot Ti, sy'r un o hyd.


  1. Emyn rhif 211, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 209, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930