Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/222

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

2 Rhof fy nhroed y fan a fynnwyf
Ar sigledig bethau'r byd,
Ysgwyd mae y tir o danaf,
Darnau'n cwympo i lawr o hyd;
Ond os caf fy nhroed i sengi,
Yn y dymestl fawr a'm chwŷth,
Ar dragwyddol Graig yr Oesoedd,
Dyna fan na sigla byth.

Ebenezer Thomas (Eben Fardd)


213[1] Cariad fel y Moroedd
87. 87. D.

1 DYMA gariad fel y moroedd,
Tosturiaethau fel y lli:
Twysog Bywyd pur yn marw—
Marw i brynu'n bywyd ni.
Pwy all beidio â chofio amdano?
Pwy all beidio â thraethu'i glod?
Dyma gariad nad â'n angof
Tra fo nefoedd wen yn bod.

William Rees (Gwilym Hiraethog)



214[2] Enw Iesu.
87. 87. D.

1 ENW Iesu sydd yn werthfawr,
Ynddo mae rhyw drysor im;
Enw Iesu yw fy mywyd,
Yn ei enw mae fy ngrym:
Yn ei enw mi anturiaf
Trwy bob rhwystrau maith ymlaen;
Yn ei enw mae fy noddfa,
Am ei enw bydd fy nghân.

Anhysbys



215[3] Rhyfeddodau'r Iawn.
87. 87. D.

1 MAE rhyw fyrdd o ryfeddodau,
Iesu, yn dy farwol glwy':
Trwy dy loes, dy gur, a'th angau,
Caed trysorau fwy na mwy;

  1. Emyn rhif 213, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 214, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  3. Emyn rhif 215, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930