Y ddaear â'n dân, a'i thrysorau,
Ond geiriau fy Nuw fydd yr un ;
Y bywyd tragwyddol yw 'nabod
Fy Mhrynwr yn Dduw ac yn ddyn.
2 Rhyfeddod a bery'n ddiddarfod
Yw'r ffordd a gymerodd Efe
I gadw pechadur colledig,
Trwy farw ei Hun yn ei le :
Fe safodd fy Mrenin ei Hunan,
Gorchfygodd hiliogaeth y ddraig ;
Ein Llywydd galluog ni ydyw:
O! caned preswylwyr y graig.
3 Daeth blwyddyn y caethion i ganu,
Doed meibion y gaethglud ynghyd,
A seiniwn drwy'r nefoedd a'r ddaear
Ogoniant i Brynwr y byd:
Mae Brenin y nef yn y fyddin,
Gwae Satan a'i filwyr yn awr;
Trugaredd a hedd sy'n teyrnasu :
Mae undeb rhwng nefoedd a llawr.
Morgan Rhys
|
231[1] Mab y Dyn
10. 4. 10. 4. 10. 10.
1 O! FAB y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd
A'm Ceidwad cry';
Ymlaen y cerddaist dan y groes a'r gwawd,
Heb neb o'th du.
Cans llosgi wnaeth dy gariad pur bob cam,
Ni allodd angau'i hun ddiffoddi'r fflam.
2 Cyrhaeddaist ddiben dy anturiaeth ddrud,
Trwy boenau mawr;
A gwelais Di dan faich gofidiau'r byd
Yn gŵyro i lawr ;
Ac yn dy ochain dwys a'th ddrylliog lef
Yn galw'r afradloniaid tua thref.
|
- ↑ Emyn rhif 231, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930