Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/245

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

256[1] Doniau'r Ysbryd
76. 76. D.

1 O! DDUW, rho im dy Ysbryd,
Dy Ysbryd ddaw â gwres;
Dy Ysbryd ddaw â'm henaid
I'r nefoedd wen yn nes;
Dy Ysbryd sy'n goleuo,
Dy Ysbryd sy'n bywhau,
Dy Ysbryd sydd yn puro,
Sancteiddio a dyfrhau.

2 Dy Ysbryd sy'n datguddio
Yr heirdd drysorau drud,
Nas cenfydd llygad natur-
Cuddiedig iawn i'r byd ;
Dy Ysbryd sydd yn ennyn
Cynhesol nefol dân;
Dy Ysbryd pur yn unig
Sydd yn melysu 'nghân.

Dafydd Wiliam, Llandeilo Fach


Thomas Toke Lynch

257[2] Ysbryd pob Gras
77. 77. 77.

1 YSBRYD graslon, rho i mi
Fod yn raslon fel Tydi:
Dysg im siarad yn dy iaith,
Boed dy ddelw ar fy ngwaith:
Gwna i holl addfwynder f'oes
Ddweud wrth eraill werth y groes.

2 Ysbryd geirwir, rho i mi
Fod yn eirwir fel Tydi:
Trwy'r doethineb oddi fry
Gwna fi'n dirion ac yn gry';
Gwna fi'n frawd i'r gwan a'r trist,
Er mwyn dangos Iesu Grist.

3 Ysbryd grymus, rho i mi
Fod yn rymus fel Tydi:

  1. Emyn rhif 256, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 257, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930