259[1]Gweddi am Sancteiddrwydd.
87. 87. 47.
1 O! SANCTEIDDIA f'enaid, Arglwydd,
Ym mhob nwyd, ac ym mhob dawn;
Rho egŵyddor bur y nefoedd
Yn fy ysbryd llesg yn llawn;
N'ad im grwydro,
Draw nac yma fyth o'm lle.
2 Ti dy Hunan all fy nghadw,
Rhag im ŵyro ar y dde,
Rhedeg eilwaith ar yr aswy,
Methu cadw llwybrau'r ne':
O! tosturia:
Mewn anialwch 'r wyf yn byw.
3 Planna'r egwyddorion hynny
Yn fy enaid bob yr un,
Ag sydd megis peraroglau
Yn dy natur Di dy Hun:
Blodau hyfryd
Fo'n disgleirio daer a nef.
4 Fel na chaffo'r pechod atgas,
Mwg a tharth y pydew mawr,
Fyth fy nallu ar y llwybyr,
Chwaith na'm taflu fyth i lawr :
Gwna i mi gerdded
Union ffordd wrth olau dydd.
William Williams, Pantycelyn
260[2] Gwaith yr Ysbryd Glân ar y Galon.
87. 87. 47.
1 NERTHOEDD y tragwyddol Ysbryd,
Yn haeddianau'r dwyfol Iawn,
A wna'r fynwes ddiffaith galed
I ffrwythloni'n hyfryd lawn
O rasusau,
Pêr blanhigion nefol wlad.