Prawfddarllenwyd y dudalen hon
297[1] Trefni faddau Pechod.
73. 73. 7773. 73.
1 CAED trefn i faddau pechod
Yn yr Iawn:
Mae iechydwriaeth barod
Yn yr Iawn:
Mae'r ddeddf o dan ei choron,
Cyfiawnder yn dweud, Digon!
A'r Tad yn gweiddi, Bodlon !
Yn yr Iawn;
A Diolch byth, medd Seion,
Am yr Iawn.
2 Yn awr hen deulu'r gollfarn,
Llawenhawn;
Mae'n cymorth ar Un cadarn,
Llawenhawn:
Mae galwad heddiw ato,
A bythol fywyd ynddo ;
Ni chollir neb a gredo,
Llawenhawn;
Gan lwyr ymroddi iddo,
Llawenhawn.
- William Williams (Gwilym Cyfeiliog)
298[2] Y Drws agored.
76. 76. D.
1 O'R nef mi glywais newydd—
Fe'm cododd ar fy nhraed—
Fod ffynnon wedi'i hagor
I'r cleifion gael iachâd :
Fy enaid, rhed yn ebrwydd,
A phaid â llwfwrhau;
O'th flaen mae drws agored
Na ddichon neb ei gau.
Dafydd Wiliam, Llandeilo Fach