2 Marchog, Iesu, yn llwyddiannus,
Gwisg dy gleddau 'ngwasg dy glun ;
Ni all daear dy wrthnebu,
Chwaith nac uffern fawr ei hun :
Mae dy enw mor ardderchog,
Pob rhyw elyn gilia draw;
Mae dy arswyd trwy'r greadigaeth;
Tyrd am hynny maes o law.
3 Tyn fy enaid o'i gaethiwed,
Gwawried bellach fore ddydd,
Rhwyga'n chwilfriw ddorau Babel,
Tyn y barrau heyrn yn rhydd ;
Gwthied caethion yn finteioedd
Allan, megys tonnau llif,
Torf a thorf, dan orfoleddu,
Heb na diwedd fyth na rhif.
William Williams, Pantycelyn
422[1] Y Byd yn eiddo Crist.
886. 886.
'R WY'N gweld o bell y dydd yn dod,—
Bydd pob cyfandir is y rhod
Yn eiddo Iesu mawr;
A holl ynysoedd maith y môr
Yn cyd-ddyrchafu mawl yr Iôr,
Dros ŵyneb daear lawr.
2 Mae teg oleuni blaen y wawr
O wlad i wlad yn dweud yn awr
Fod bore ddydd gerllaw;
Mae pen y bryniau'n llawenhau,
Wrth weld yr haul yn agosáu,
A'r nos yn cilio draw.
Watkin H Williams (Watcyn Wyn}
423[2] Y Llef Ddistaw Fain.
{{c|886. 886.
O'R nef fe ddaeth llef ddistaw fain,
Hyfrytaf a phereiddiaf sain,
Trwy barthau'r ddaear gron;