Ac er distawed yw y llef,
Caiff pawb ei chlywed is y nef;
Mae Duw ei Hun yn hon.
2.Llef radlawn yw, a melys iawn;
Cyhoeddiad o faddeuant llawn
I'r euog gwael ei wedd;
Gwahoddiad i'r anghenus rai
At bob cyflawnder heb ddim trai;
Hon yw efengyl hedd.
1.Mae'n meddalhau'r afrywiog fron;
Ewyllys dyn a ennill hon,
Heb orthrech, cur, na thrais;
Hon yw'r newyddion gorau 'rioed:
I Dduw a'r Oen gogoniant boed
Byth am yr hyfryd lais.
1.Aed sain efengyl cyn bo hir
I'r dwyrain a'r gorllewin dir,
Y gogledd oer, a'r de;
O! profed pawb effeithiau hon,
Y byd fo'n plygu ger ei bron,
A llwydded ym mhob lle.
P. J
424[1] Dros Iesu Grist.
888. 4.
1.COFIA'R cenhadon, dirion Dad,
Sydd heddiw 'mhell o dir eu gwlad,
Yn dweud am ffordd y cymod rhad
Dros Iesu Grist.
2.Rho yn eu genau newydd gân,
Llanwer hwynt oll â'r Ysbryd Glân,
Rho iddynt nerth i fod ar dân
Dros Iesu Grist.
3.Na foed un enaid is y nef
Heb wybod am ei gariad Ef;
O! doed y ddaear yn un llef
At Iesu Grist.
W.N.W.
- ↑ Emyn rhif 424, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930