3 Fe edwyn Duw ddyddiau a gwaith |
475[1] Pryn y Gwir."
M. S.
O! PRYN y gwir, fy enaid, pryn,
Na werth ar un amodau;
O holl drysorau môr a thir,
Y gwir yw'r trysor gorau.
2 Y gwir fel gwregys, ar bob cam,
Yn dynn fo am ein lwynau;
Y gwir ei hun a geidw'n bron
Yn llon mewn gorthrymderau.
3 Rhy'r gwir im gysur dan y loes
Pan ddelo f'oes i fyny:
Daw hwn â'm henaid i'r pryd hyn
Trwy'r glyn dan orfoleddu.
Thomas Williams, Bethesda'r Bro
476[2] Cynnydd mewn Gras.,br>M. S.
1 Y RHAI o dan dy gysgod, Iôn, |