Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/421

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3.Os agori im dy fynwes,
I gael gweld y cariad llawn,
Lifodd allan fel y moroedd
Ar Galfaria un prynhawn,
Ti gei'r cwbwl
Roddaist imi yn fy rhan.

William Williams, Pantycelyn

563[1] Nerth yn yr Anialwch.
87. 87. 47.

1.ARGLWYDD, arwain trwy'r anialwch
Fi, bererin gwael ei wedd,
Nad oes ynof nerth na bywyd,
Fel yn gorwedd yn y bedd:
Hollalluog
Ydyw'r un a'm cwyd i'r lan.

2.Colofn dân rho'r nos i'm harwain,
A rho golofn niwl y dydd;
Dal fi pan fwy'n teithio'r mannau
Geirwon yn fy ffordd y sydd;
Rho i mi fanna,
Fel na bwyf yn llwfwrhau.

3.Agor y ffynhonnau melys
Sydd yn tarddu o'r graig i maes;
'R hyd yr anial mawr canlyned
Afon iechydwriaeth gras:
Rho i mi hynny;
Dim i mi ond dy fwynhau.

4.Pan fwy'n myned trwy Iorddonen—
Angau creulon yn ei rym,
Aethost trwyddi gynt dy Hunan,
Pam yr ofnaf bellach ddim?
Buddugoliaeth!
Gwna i mi weiddi yn y llif.


  1. Emyn rhif 563, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930