3.Arglwydd, rhaid i mi gael bywyd;
Mae fy meiau yn rhy fawr,
Fy euogrwydd sy'n cydbwyso
A mynyddoedd mwya'r llawr:
Rhad faddeuant, gwawria bellach,
Gwna garcharor caeth yn rhydd,
Fu'n ymdreiglo mewn tywyllwch,
'N awr i weled golau'r dydd.
William Williams, Pantycelyn
595[1] Golwg ar y Nefoedd.
87. 87. D.
1.DACW'R ardal, dacw'r hafan,
Dacw'r nefol hyfryd wlad,
Dacw'r llwybyr pur yn amlwg
'R awron tua thŷ fy Nhad;
Y mae hiraeth yn fy nghalon
Am fod heddiw draw yn nhref,
Gyda myrdd sy'n canu'r anthem,
Anthem cariad, "Iddo Ef."
2.Mae fy hwyliau heddiw'n chware'n
Llawen yn yr awel bur,
Ac 'r wy'n clywed sŵn caniadau
Peraidd paradwysaidd dir;
Ffárwel haul a lloer a thrysor,
Ffárwel ddaear, ffárwel ddyn;
Nid oes dim o dan yr ŵybren
Sydd yn fawr ond Duw ei Hun.
William Williams, Pantycelyn
596[2] Gafael ar y Bywyd.
87. 87. D.
1.DYRO afael ar y bywyd,
Bywyd yw fy nghri o hyd;
N'ad im gario lamp neu enw,
Heb yr olew gwerthfawr drud: