Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/549

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

2 Gwelwch mor isel ei ben yn y preseb,
Disglair yw oerwlith y nos ar ei grud;
Moled angylion mewn llety cyn waeled,
Frenin, Creawdwr, a Cheidwad y byd.
3 A dalwn ni iddo y gorau o'n trysor,
Llysiau o Edom yn offrwm i'n Duw,
Gemau o'r mynydd a pherlau o'r dyfnfor,
Myrr o'r anialdir, ac aur o Beriw?
4 Ofer y ceisiem ei wên ag anrhegion,
Ofer â golud y ddaear yn hael:
Gwell ganddo gywir addoliad y galon,
Gwell gan yr Iesu yw gweddi y gwael.
HEBER, C. W.WLS., diw. J.T.J.


770[1] O! Deued pob Cristion
12. 8. 12. 8. T.

1. O! DEUED pob Cristion i Fethlem yr awron,
I weled mor dirion yw'n Duw;
O! ddyfnder rhyfeddod! fe drefnodd y Duwdod
Dragwyddol gyfamod i fyw!
Daeth Brenin yr hollfyd i oedfa ein hadfyd
Er symud ein penyd a'n pwn;
Heb le yn y llety, heb aelwyd, heb wely,
Nadolig fel hynny gadd Hwn!
Rhown glod i'r Mab bychan, ar liniau Mair wiwlan―
Daeth Duwdod mewn Baban i'r byd;
Ei ras, O! derbyniwn; ei haeddiant cyhoeddwn,
A throsto Ef gweithiwn i gyd.

2 Tywysog tangnefedd wna'n daear o'r diwedd
Yn aelwyd gyfannedd i fyw;
Ni fegir cenfigen na chynnwrf na chynnen,
Dan goron bydd diben ein Duw.
Yn frodyr i'n gilydd, drigolion y gwledydd,
Cawn rodio yn hafddydd y nef;

  1. Emyn rhif 770, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930