EMYNAU.
MAWL AC ADDOLIAD.
Y MAE'R emynau a ganlyn yn gymwys i'w canu mewn Cyfarfodydd Diolch am y Cynhaeaf:—2, 11, 18, 29, 32, 33, 36, 39, 41, 42, 44, 59.
1[1] Mawl i'r Drindod.
11. 12. 12. 10.
1. SANCTAIDD, sanctaidd, sanctaidd, Dduw Hollalluog!
Gyda gwawr y bore dyrchafwn fawl i Ti;
Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, cadarn a thrugarog!
Trindod fendigaid yw ein Harglwydd ni!
2. Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd!—nef waredigion
Fwriant eu coronau yn ŵylaidd wrth dy droed;
Plygu mae seraffiaid, mewn addoliad ffyddlon,
O flaen eu Crewr sydd yr un erioed.
3. Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd! cwmwl a'th gylchyna,
Gweled dy ogoniant ni all anianol un;
Unig Sanctaidd ydwyt, dwyfol bur Jehofa,
Perffaith mewn gallu, cariad, wyt dy Hun.
4. Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, Dduw Hollalluog!
Datgan nef a daear eu mawl i'th enw Di:
Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, cadarn a thrugarog
Trindod fendigaid yw ein Harglwydd ni!
—Reginald Heber (1783–1826)
Cyfieithiad—Parch Evan Rees (Dyfed 1850—1923)
- ↑ Emyn rhif 1, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930