8[1] SALM IX. 1, 2, 9, 10.
M. S.
1 CLODFORAF fi fy Arglwydd Iôn,
O'm calon ac yn hollawl ;
Ei ryfeddodau rhof ar led,
Ac mae'n ddylêd eu canmawl.
2 Mi fyddaf lawen yn dy glod,
Ac ynod gorfoleddaf;
I'th enw, O! Dduw, y canaf glod,
Wyt hynod, y Goruchaf.
3 Gwna'r Arglwydd hefyd hyn wrth raid,
Trueiniaid fe'u hamddiffyn ;
Noddfa a fydd i'r rhain mewn pryd,
Pan fo caledfyd arnyn'.
4 A phawb a'th edwyn, rhônt eu cred,
A'u holl ymddiried arnat;
Cans ni adewaist, Arglwydd, neb
A droes ei ŵyneb atat.
9[2] SALM XXVIII. 2, 6, 7.
M. S.
1 O! ARGLWYDD, erglyw fy llais i,
A derbyn weddi bruddaidd,
Pan godwyf fy nwy law o bell,
Duw, tua'th gafell sanctaidd.
2 Bendigaid fyddo'r Arglwydd nef,
Fe glybu lef fy ngweddi;
Yr Arglwydd yw fy nerth a'm rhan,
A'm tarian, a'm daioni.
3 Mi ymddiriedais iddo am borth,
A chefais gymorth ganddo ;
Minnau, o'm calon, drwy fawr chwant,
A ganaf foliant iddo.