4 Os pell yw'r dwyrain olau hin
Oddi wrth orllewin fachlud,
Cyn belled ein holl bechod llym
Oddi wrthym Ef a'i symud.
5 Ac fel y bydd nawdd, serch, a chwant
Tad da i'w blant naturiol,
Felly cawn serch ein Tad o'r nef,
Os ofnwn Ef yn dduwiol.
14[1] SALM CVII. 1, 2, 22.
M. S.
1 MOLWCH yr Arglwydd, cans da yw,
Moliennwch Dduw ein Llywydd;
Oblegid ei drugaredd fry
A bery yn dragywydd.
2 Y gwaredigion canent fawl,
I Dduw gerdd nodawl gyson:
Y sawl achubwyd, caned hyn,
O law y gelyn creulon.
3 Aberthant hefyd aberth mawl
I'w ogoneddawl fawredd;
Mynegi a wnânt ei waith a'i wyrth
Yn ei byrth mewn gorfoledd.
15[2] SALM CXI. 1, 4, 5.
M. S.
1 CLODFORAF fi fy Arglwydd Iôn,
O 'wyllys calon hollol
Mewn cynulleidfa ger eu bron,
Mewn tyrfa gyfion rasol.
2 Yr Arglwydd a wnaeth ei goffáu
Am ryfeddodau nerthol;
Cans Arglwydd noddfawr yw i ni,
Llawn o dosturi grasol.