Tudalen:Llyfr Gloywi Cymraeg.pdf/11

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymeradwya "hyd yn nod " yn hytrach na "hyd yn oed," a'r eglurhad yw bod "rhyw nod gan y cyntaf i gyfeirio ato, nid oes dim yn yr ail." Yn wyneb yr esboniad hwn byddai "hyd y nod,"—ffurf a welir ambell waith,—yn well byth. Y mae gwell neu "ddim cystal yn bosibl ynglŷn â llawer gair neu ddull ymadrodd, ond ynglŷn ag ymadroddion fel "hyd yn oed, " y mae glynu wrth hyd yn nod, neu hyd y nod, mor fympwyol a gwaith rhywun yn ddiweddar yn gweiddi dyddorol i mi. "Erys yn ffaith mai "diddorol" a "hyd yn oed" sy'n gywir, pa faint bynnag o raff a rydd dynion i'w dychymyg.

Dywed y llyfryn bychan hwn fod darllen yn well na darllain, anghen yn well nag angen, gwyneb angel yn well nag wyneb angel, can gynted yn well na cyn gynted, dỳg yn well na dug, &c. Sylwir eto ar y pwyntiau hyn. Trais yw'r h yn anghen, a'r g yn gwyneb. Ysgrifenner angen ac wyneb. Wele wyneb ar ôl y rhagenw personol, meddiannol.

Fy wyneb ... … ein hwyneb
Dy wyneb eich wyneb.
Ei wyneb (his)

Ei hwyneb (her)

eu hwyneb.

Nid yw dyg yn bosibl o dan unrhyw amgylchiad. "Dwg " yw he brings: "dug," he brought. Anhrefn o'r mwyaf yw can gynted. Peidier byth â'i ddefnyddio. Cyn gynted " yn unig sy'n gywir. Erys "darllen" bellach yn yr iaith, ond gair a wnaed yn ddiweddar ydyw. Darllein a darllain yw'r hen ffurfiau.