Tudalen:Llyfr Haf.pdf/102

Gwirwyd y dudalen hon

XXXIV

YR EHEDYDD

1. BETH, yn holl dlysni'r haf, sydd mor swynol â chodiad yr ehedydd? A welwch chwi ef yn codi o'r cae ŷd, lle bu'n gorffwys tros nos, ac yn cychwyn ar ei daith ryfedd i'r nefoedd? A'r miwsig sy'n arllwys o'i big! A glywsoch chwi erioed ganu a chymaint o ynni angerddol ynddo?

Ceir ehedyddion trwy Ewrop i gyd, ac yn Asia, ac mewn rhannau o Affrig. Nid oes yr un aderyn yr hoffa yr Americaniaid ei weld a'i glywed fel yr ehedydd, ac erbyn hyn y mae llawer o'r adar yn byw yn yr Amerig.

Y mae llawer math o ehedyddion, yr ehedydd byrfys, yr ehedydd du, ehedydd y tywod, ehedydd y diffeithwch, ehedydd y waen, y corr hedydd. ehedydd y traeth, ehedydd y coed, enid, esgudogyll, ehedydd y maes.

Er bod mân wahaniaethau, y maent oll yn debyg i'w gilydd yn eu cryfder, yn eu gallu i ehedeg yn uchel, yn eu hynni bywiog, ac yn swyn gwefriol eu cân. Daw ehedydd y coed i Gymru weithiau, ond ehedydd y maes yw ein ehedydd ni. I Gymro, ef yw yr ehedydd.

Erys rhai ehedyddion yma trwy'r flwyddyn; daw eraill yn ôl o'r cyfandir yn yr hydref. Ond ni chrwydra'r ehedydd ymhell, fel y wennol a'r gog.