Tudalen:Llyfr Haf.pdf/103

Gwirwyd y dudalen hon

Mae ein ehedydd ni o ffurf fwy telaid ac eiddil na'r lleill. Tua saith modfedd yw ei hyd. Mae ei gefn yn llwydfelyn, y fron yn felynwen, ac ymylon rhai o'r plu yn wynion. Mae'r gynffon yn fforchog. Ar y ddaear yr erys y nos, ond yn yr awyr y mae'n byw. Cwyd ar doriad y wawr, ac i fyny ag ef ar ei union, tan ganu. Ei fwyd yw chwilod, gloywod byw, sioncod y gwair, a phryfed copyn; ond, wrth ddifa y rhai hyn, rhaid iddo gael ambell flaguryn o'r yd neu'r gwenith sy'n tyfu o'u cwmpas. Ar lawr cae y gwneir y nyth. Nid yw ond twll yn y ddaear. Y gamp yw ei wneud yn debyg i'r cae o'i gwmpas, fel na wêl llygad barcud ef. Prif elynion yr ehedydd yw nadroedd, hebogau, a phlant drwg. Glaswellt sych, dail gwyw, a rhawn, yw prif ddefnydd y nyth. Yn nechrau Mai y gwneir y nyth, a'r ŷd ieuanc glas yn codi o'r ddaear o'i amgylch. Bydd yno bump neu chwech o wyau melynwyrdd neu gochwynion. Yn fuan iawn wedi eu deor, ehed y rhai bach i'r ŷd, a bydd brodyr bach yn eu dilyn o'r nyth wedyn cyn diwedd yr haf.

A welsoch chwi'r ehedydd yn cerdded? cherdded y mae, nid rhoi naid ac ysbone; a rhyfedd, rhyfedd, mor fuan y mae ei draed yn mynd.

Ond ar ei adain y mae orau. Cwyd i'r awyr, weithiau mewn cylchdro troellog, weithiau gan ymsaethu'n syth i fyny. Â'n llai, llai, ac o'r diwedd gwelir ef fel ysmotyn bychan du yn entrych yr awyr ddisglair. Cyn hir, cychwyn i lawr; a