Tudalen:Llyfr Haf.pdf/104

Gwirwyd y dudalen hon

chyn cyrraedd y ddaear wele ef yn cau ei adenydd, yn rhoi ei ben ymlaen, ac yn disgyn i'r ddaear megis plwm. Er i chwi golli golwg arno, y mae mor ddiogel yn y gwellt ag oedd ar fron y ewmwl. A'i gân Mor fyw ydyw,—y mae'n gyrru trydan drwoch. Cân wrth godi; ar ôl pob esgyniad arllwysa gân ar y ddaear fel cawod o lwch aur ac arian. Ac fel yr â i fyny, â'r gân yn felysach a thynerach.

Wrth i chwi ei wrando, gofynnwch,—"Ai o lawnder ei galon y mae'n canu? Ynteu a ydyw yn fy ngweld i 'n gwrando?"

Pe chwiliech yn fanwl, caech fod iddo edmygwyr heblaw chwi. Y mae ei blant, y rhai mwyaf a'r rhai lleiaf, yn edrych yn edmygol arno'n codi, ac yn hoffi ei gân. Dilynant ei siwrne, a thoc croesawant ef yn ôl.

Pa ryfedd fod y beirdd wedi canu clod yr ehedydd?