Tudalen:Llyfr Haf.pdf/108

Gwirwyd y dudalen hon

XXXVI

Y CIWI

1. UN o'r adar digrifaf yw'r ciwi. Nid oes UN ganddo gynffon, nac adenydd gweladwy; ond y mae ganddo goesau hirion a phig hir iawn. O bell, ymddengys fel hen wraig fechan sione, a'i chlog wedi ei thaflu trosti, gan guddio ei breichiau.

Brodoro New Zealand ydyw. Y mae pedwar math o hono ar ddwy brif ynys New Zealand, ond nid oes yr un ohonynt yn fwy na dwy droedfedd o daldra.

Y mae ei symudiadau'n ddistaw ac yn gyflym iawn. Medr gymryd camrau breision, a rhedeg yn hynod fuan, a'i gorff megis yn ei ddau ddwbl. Weithiau saif yn syth; ambell dro rhydd ei big ar y ddaear, a gorffwys ei gorff arni hi ac ar ei goesau ; ond, fel rheol, saif yn ei hanner crwn. gan chwilio am fwyd â'i big hirfain.

2. Oherwydd ei big yw ei ffortiwn. Y mae'n hir ac yn gref, a thybir y gall arogli â hi. Piga ffrwythau oddiar y coed. Ond ei brif fwyd yw pryfed, yn enwedig pryfed genwair. Planna'i big i'r ddaear, a gyr hi i mewn at y bôn. Cyn sicred â dim, daw â phryf genwair, neu ryw drychfilyn arall sydd yn amheuthun iddo, allan ynddi. Mae golwg ddoniol arno. Yn araf ac yn ofalus tyn y