Tudalen:Llyfr Haf.pdf/109

Gwirwyd y dudalen hon

pryfyn allan, gan ofalu peidio a'i niweidio na'i dorri. Mae fel pen sibrwd wrtho: "Tyrd, y peth bach, or ddaear ddu, dywyll ac i oleuni cynnes yr haul, i'th fwynhau dy hun." A chyn gynted ag y caiff y pryf allan i gyd, teifl ef i'r awyr, deil ef yn ei big wrth iddo ddisgyn. a llwnc ef heb na halen na phupur.

O liw, y mae rhai o'r ciwiaid yn llwyd, a rhai yn llwytgoch.

Dodwant ryw ddau ŵy, ac eistedd y gwryw a'r fenyw ar yr wyau bob yn ail nes eu deor.

Nid â'i big y bydd y ciwi yn ei amddiffyn ei hun, ond ag un o'i draed. Cwyd ci droed i fvny. a rhydd ergyd neu grafangiad ag ef.