Tudalen:Llyfr Haf.pdf/12

Gwirwyd y dudalen hon

LLYFR HAF

I

ANIFEILIAID Y BYD NEWYDD

1. Y MAE llid rhwng anifeiliaid y byd hwn. Y mae'r naill yn byw trwy ladd a llarpio'r llall. Nid yw cyrnn y carw yn ddigon o amddiffyn iddo rhag dannedd llymion a phalf nerthol y llew. Gall carnau yr asyn ystyfnig fod yn angau i'r mwnci cyfrwysaf. Brwydr ffyrnig fuasai rhwng gwaedgwn ac arth, gref ei hewinedd. Ac y mae pig pob aderyn yn ddychryn i rywbeth llai.

2. Ac eto, yn ôl proffwyd aruchelaf Israel, y mae heddwch i deyrnasu ymhlith holl anifeiliaid y ddaear. A'r blaidd a drig gyda'r oen, a'r llewpard a orwedd. gyda'r myn; y llo hefyd, a chenaw y llew, a'r anifail bras, fyddant ynghyd. A bachgen bychan a'u harwain. Y fuwch hefyd a'r arth a borant ynghyd, eu llydnod a gydorweddant; y llew, fel yr ych, a bawr wellt. A'r plentyn sugno a chwery wrth dwll yr asp; ac ar ffau y wiber yr estyn yr hwn a ddiddyfnwyd ei law. Ni ddrygant, ac ni ddifethant, yn holl fynydd fy santeiddrwydd, canys y ddaear a fydd lawn o wybodaeth yr Arglwydd, megis y mae y dyfroedd yn toi y môr."